Mae Casgliad y Tabernacl yn cynnwys dros 400 o weithiau ac yn canolbwyntio’n bennaf ar artistiaid oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn yr 20fed a’r 21ain ganrif.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys detholiad o weithiau haniaethol o’n Casgliad gan gynnwys gweithiau gan Mary Lloyd Jones, John Rowlands, Arthur Giardelli, a thri chaffaeliad newydd gan y diweddar Michael D Hunt.