Bydd ymwelwyr yn gyfarwydd â’r paentiad haniaethol, Wurlitzer gan Bill Henderson yn hongian yn MOMA. Am y tro cyntaf bydd grŵp o baentiadau mawr syfrdanol Bill yn cael eu harddangos yn MOMA, wedi’u benthyca’n garedig gan ei deulu. Fe’u dangosir ochr yn ochr ag ymatebion wedi’u gwehyddu’n arbennig gan Vicky Ellis.