Mae arddangosfa flynyddol MOMA Machynlleth, Artistiaid Ifainc Cymru, yn cefnogi a hyrwyddo
artistiaid o Gymru neu sy’n gweithio yma, sy’n 30 oed ac iau. Yn y bedwaredd arddangosfa hon, mae 17 o artistiaid ifanic cyffrous wedi’u gan y curaduron Mari Elin Jones a Lloyd Roderick.

Cafodd yr artistiaid hyn y rhyddid i greu mewn unrhyw gyfrwng ac archwilio unrhyw thema, gan
arwain at gasgliad amrywiol o waith celf, sy’n cynnwys paentiadau, ffotograffau, cerfluniau, a darnau cyfrwng cymysg.

Mae pob artist yn archwilio pynciau unigryw fel yr amgylchedd, lle, iaith, a hunanfynegiant. Gyda’i gilydd, mae eu gwaith yn rhoi cipolwg ar brofiadau bywyd yn 2023 ac yn adlewyrchu byd bywiog celf gyfoes yng Nghymru.