Dyma arddangosfa arbennig sy’n cofnodi ac yn dathlu cyfoeth enwau tirweddol Eryri trwy gyfrwng y grefft draddodiadol o wehyddu gwlân.

Mae enwau tirweddol hanesyddol yn cipio ysbryd lleoedd, yn sbarduno’r dychymyg ac weithiau’n ail greu’r bywyd beunyddiol, y trafferthion, y brwydrau a gogoniant yr oes a fu.

O fewn chwe charthen wlân unigryw, cofnodir a dethlir detholiad o’r cannoedd o enwau tirweddol hanesyddol a gasglwyd mewn sesiynau a gynhaliwyd ar hyd a lled Eryri er mwyn casglu gwybodaeth am enwau tirweddol gan drigolion.

Dyluniwyd y carthenni gan y gwehydd a’r dylunydd tecstilau, Anna Pritchard. Mae pob carthen wedi ei briodoli i ardal benodol o Eryri, a phob un â’i ddyluniad unigryw ei hun yn adlewyrchu rhai o nodweddion arbennig yr ardaloedd hynny.

Arbenigodd Anna mewn gwehyddu ym Mhrifysgol Manceinion gan feistroli’r grefft ymhellach dan adain gwehyddion blaenllaw. O’i stiwdio fechan sy’n edrych draw am y Carneddau, mae’n dylunio tecstilau cyfoes ar gyfer y cartref a ysbrydolwyd gan siapiau a gwrthrychau cyfarwydd sy’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol. Bydd lliwiau byd natur o’i chwmpas yn arbennig yn tanio ei dychymyg, ac o hynny y bydd ei dyluniadau’n datblygu.

Comisiynwyd y carthenni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel rhan o’i waith ehangach o gasglu a chofnodi enwau tirweddol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol er mwyn eu dathlu a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n ei wneud i ddathlu a diogelu enwau tirweddol Eryri ar wefan yr Awdurdod Diogelu Enwau Tirweddol Hanesyddol | Parc Cenedlaethol Eryri