Tocynnau ar gael ar y drws

Lighthouse Theatre yn cyflwyno

A Christmas Carol – A Live Radio Play

gan WBFR Playhouse of the Air

Addasiad ar gyfer y llwyfan gan Joe Landry gyda cherddoriaeth gan Kevin Connors

Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd y gaeaf hwn gyda fersiwn ddrama radio fyw o chwedl glasurol hirhoedlog Dickens, A Christmas Carol – drama i swyno’r hen a’r ifanc fel ei gilydd yn llawn teimladau Nadoligaidd, cyfarfyddiadau ag ysbrydion, caledi ac achubiaeth.

Efrog Newydd, 1946. Dim ond newydd orffen mae’r Ail Ryfel Byd. Mae actorion WBFR Playhouse of the Air yn cyfarfod yn y stiwdio ar gyfer eu darllediad Noswyl Nadolig blynyddol. Pa sgriptiau gwell i’w cyfarch eleni, na’r hen glasur gan Dickens o gan mlynedd yn ôl a luniodd y Nadolig ei hun?

Mae llond llaw o actorion o’r Unol Daleithiau yn dod â dwsinau o gymeriadau Fictoraidd o’r Hen Lundain yn fyw, wrth i’r stori gyfarwydd ddatblygu…Mae tri ysbryd yn mynd ag Ebenezer Scrooge ar daith i ddysgu gwir ystyr y Nadolig iddo….

Yn dilyn llwyddiannau It’s A Wonderful Life a Miracle on 34th Street, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd, yn ôl y galw mawr, gyda Chlasur Nadolig arall. Wedi’i gosod mewn stiwdio ddarlledu New York Live o’r 1940au, bydd A Christmas Carol yn teithio ledled Cymru, gan ddod â phrofiad theatrig a darlledu unigryw i theatr yn eich ardal chi.

Cyfarwyddwyd gan Joe Harmston | Cynlluniwyd gan Sean Cavanagh | Artist Foley, cyfarwyddwr cerdd a cherddoriaeth wreiddiol ychwanegol – Kieran Bailey.
Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd.