Yn fwyaf adnabyddus am ei phalet lliw dyrchafol a’i marciau chwareus ac unigryw, mae darluniau fector digidol Beth yn ennyn atgofion melys a gwerthfawrogiad o dirwedd ddramatig Cymru. Gan herio’i hun wrth ddefnyddio’r pen braffeg a thabled, mae Beth yn defnyddio’i sgiliau dylunio graffeg a enillwyd ar ôl blynyddoedd o lunio logos. Mae Beth wrth ei bodd gyda’r awyr agored ac yn gweld ei thirwedd yn ddathliad o harddwchnaturiol eithriadol Cymru.