Mae’r artist/animeiddiwr Sean Harris a’r gitarydd meistrolgar Toby Hay yn creu gosodiadau hudolus sy’n cyfuno animeiddio tafluniol a sain. Trwy’r rhain maent yn archwilio ein perthynas sy’n newid yn barhaus â natur, gan gymryd creaduriaid fel cynwysyddion ar gyfer y straeon maen nhw’n eu hadrodd amdanom ni.

Mewn antur newydd sbon maent yn datblygu perfformiad Adar a Ni. Yma, am y tro cyntaf bydd ‘llusern hud’ hudolus Harris yn cael ei gyfeilio gan drac sain a berfformir yn fyw gan Hay.

Maent yn estyn croeso cynnes i bawb i weld y broses ymarfer yn y Tabernacl.

22ain a 23ain Medi, 11-4pm, gan oedi am ginio tua 1/1.30pm

Mae’r prosiect wedi’i alluogi gan Wobr Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri