Prynhawn o ganu gyda’r gantores, delynores a phianydd, Siân James. Mae Siân yn un o brif leiswyr benywaidd cyfoes Cymru ac yn arloeswraig flaenllaw ym maes caneuon traddodiadol. Mae wedi ymddangos ar lwyfan ac ar y sgrîn, ac mewn lleoliadau led led y byd. Hyd yma, mae wedi rhyddhau deg albwm o’i gwaith sy’n cwmpasu’r holl ystod o emosiynau dynol.