Yn ôl oherwydd y galw mawr, dewch i fwynhau seiniau Budapest Cafe Orchestra am yr ail flwyddyn yn olynol. Dan arweiniad Christian Garrick, mae’r ensemble anhygoel hwn yn cyflwyno cerddoriaeth sydd â naws sipsiwn a gwerin, wedi’i hail-gyflwyno yn eu ffordd ffres ac annisgwyl eu hunain. O ddarnau traddodiadol y Balcanau a Rwsia i addasiadau celfydd o gampweithiau’r cyfansoddwyr Rhamantaidd mawr, hyd at anthemau gwerin Gaeleg. Bydd eu cerddoriaeth heintus yn aros gyda chi am byth!

Cynghorir eich bod yn archebu’n gynnar.