Taliesin ym Marddoniaeth Gymraeg: ‘Llu o Ffurfiau’
Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston FBA

Mae Dafydd Johnston yn Athro Emeritws ac yn gyn-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus ar lenyddiaeth Gymraeg, mae golygiadau ac astudiaethau o farddoniaeth ganoloesol, yn ogystal ag arolwg cyflwyniadol, The Literature of Wales. Yn ei ddarlith, fe fydd yn archwilio’r amryfal ddefnydd o Daliesin fel ffigwr o awdurdod ac ysbrydoliaeth farddonol o’r Oesoedd Canol hyd at y cyfnod modern.