Alwyn Evans – Arweinydd
Tudur Jones – Cyfeilydd
Elis Jones – Tenor

Nodwedd unigryw o gerddoriaeth a diwylliant Cymru yw’r Gymanfa Ganu, sef gŵyl o emynau a genir gan y gynulleidfa mewn harmoni pedwar rhan. Yn ddwyieithog. Bydd y digwyddiad dyrchafol hwn yn agor Gŵyl 2026.

Gydag unawdau gan y tenor Elis Jones, enillydd y Rhuban Glas (gwobr goffa David Ellis) yn yr eisteddfod genedlaethol ym Mhontypridd 2024.

Digwyddiad heb angen tocyn, y cyfan sydd angen ei wneud yw dod draw atom! Bydd casgliad yn cael ei gymryd ar y diwedd.