Cystadleuaeth Gelf Y Tabernacl – Rheolau 2026
Thema: Taliesin

Tâl Cystadlu
Oedolion: £17.50 | O Dan 18 Oed: £5

Gwobrwyon Agored y Tabernacl
Gwobr Gyntaf i Oedolion – £1200
Ail Wobr i Oedolion – £600 (Rhodd Cyfeillion y Tabernacl)
Trydydd Wobr i Oedolion – £300

Gwobr Oedran 12-17 – £100
Gwobr 11 Oed a Iau – £50

DARLLENWCH Y CANLYNOL YN OFALUS CYN CYSTADLU

– Gall artistiaid gyflwyno UN darn o waith. Dylai hwn fod yn waith newydd wedi’i ysbrydoli gan y thema.
– Gall y gwaith fod mewn unrhyw gyfrwng, gan gynnwys tecstilau a ffotograffiaeth. Dim gwaith a gynhyrchwyd gan AI.
– Dylai’r gwaith fod yn ddau ddimensiynol. Derbynnir fframiau bocs. Dim blychau golau na gwaith trydanol.
– Rydym yn defnyddio platiau drych i hongian gweithiau. Byddwn yn cyflenwi’r platiau drych.
– I osod platiau drych rydym yn defnyddio sgriwiau, felly rhaid i bob gwaith fod wedi’i fframio neu â chefn pren, caniateir cynfas heb ei fframio ar estynnydd pren.
– Trwch lleiaf y ffrâm neu’r gefnogaeth: 15mm
– Dim fframiau clip na fframiau metel. Dim papur/dalennau cardiau rhydd.
– Rhaid cyflwyno gwaith fel un eitem (i’w hongian gydag un set o blatiau drych).
– Rhaid i bob gwaith fod ar werth, gyda phris gwerthu realistig. Cofiwch gynnwys y comisiwn, (gweler yr adran ‘Gwerthu Gwaith’).

TÂl CYSTADLU
– Gellir talu’r tâl cystadlu ag arian parod neu gerdyn. Yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein.
– Ar ôl talu’r tâl cystadlu byddwch yn derbyn pecyn mynediad wedi’i argraffu.
– Mae’r pecyn mynediad yn cynnwys: copi o’r rheolau, ffurflen gais, a label gwaith melyn.

MAINT
– Maint mwyaf, gan gynnwys y ffrâm, 36 x 48 modfedd (914 x 1219mm).
– Mae hyn yn golygu na ddylai’r ochr hiraf fod yn fwy na 48 modfedd (1219mm), ac ni ddylai’r ochr byrraf fod yn fwy na 36 modfedd (914mm).

PARATOI AT GYFLWYNO
– Cwblhewch y ffurflen gais a ddarperir.
– Gellir dychwelyd y ffurflen gais atom gyda’r gwaith neu ymlaen llaw.
– Cwblhewch bob un o dair rhan y label melyn. Gadewch bob rhan ynghlwm.
– Llenwir y blychau ‘Rhif Gwaith’ gan ni.
– Cysylltwch y label â chefn y gwaith gyda llinyn tenau, yn ddigon hir i’r label hongian dros flaen y gwaith.
– Ysgrifennwch y wybodaeth ganlynol ar gefn y gwaith: Enw’r artist, teitl y gwaith, cyfrwng, pris.

DANFON Y GWAITH
– Wythnos dderbyn: Dydd Llun 15 Mehefin i ddydd Gwener 19 Mehefin 2026, 10yb i 4yp.
– Gellir cyflwyno gwaith yn gynharach gyda threfniant ymlaen llaw.
– Gellir cyflwyno gweithiau yn bersonol neu drwy cludwr parsel / post.
– Os ydych chi’n danfon gwaith yn bersonol, tynnwch yr holl ddeunydd pacio a’i gymryd gyda chi.

– Bydd gofal da yn cael ei gymryd o bob gwaith a gyflwynir.
– Ni all MOMA Machynlleth gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled, sut bynnag y’i hachosir.
– Cynghorir artistiaid i yswirio eu gwaith rhag difrod neu ladrad.

BEIRNIADU
– Bydd panel o feirniaid yn cael eu dewis gan MOMA Machynlleth.
– Bydd y beirniaid yn dewis nifer gyfyngedig iawn o weithiau i’w cynnwys yn yr arddangosfa.
– Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.

HYSBYSU
– Rhowch amlen wedi’i stampio a’i chyfeirio atoch eich hun gyda’ch ffurflen gais.
– Bydd rhan waelod y label melyn yn cael ei dychwelyd atoch yn yr amlen hon.
– Bydd hyn yn dweud wrthych a yw eich gwaith wedi cael ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa ai peidio.
– Dyma hefyd eich derbynneb i gasglu’r gwaith – cadwch ef yn ddiogel.
– Cysylltir ag enillwyr gwobrau dros y ffôn.

ARDDANGOSFA
– Mae’r arddangosfa’n rhedeg o ddydd Sadwrn 27 Mehefin i ddydd Mercher 9 Medi 2026.
– Bydd yr arddangosfa’n cael ei hagor yn swyddogol am hanner dydd, ddydd Sadwrn 27 Mehefin gyda ‘golwg breifat’ a seremoni wobrwyo.
– Mae croeso i bob cystadleuydd a’u teulu a’u ffrindiau fynychu’r digwyddiad hwn.

GWERTHU GWAITH
– Os gwerthir gwaith, didynnir comisiwn o 1/3 gan MOMA Machynlleth.
– Cofiwch gynnwys y comisiwn hwn yn eich pris gwerthu. (Ffordd hawdd o gyfrifo hyn yw ychwanegu 50% at y pris yr hoffech ei gael)
– Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW, rhowch wybod i ni.

– Os gwerthir gwaith, bydd artistiaid yn cael gwybod a byddwn yn gofyn am fanylion banc i drefnu taliad.
– Mae MOMA Machynlleth yn gweithredu cynllun talu fesul cam o’r enw ‘Picture Plan’.
– Mae Picture Plan yn caniatáu i brynwyr ledaenu taliadau dros uchafswm o 12 mis.
– Ni fydd gweithiau sy’n cael eu prynu gan Picture Plan yn cael eu rhyddhau i brynwyr nes bod y taliad wedi’i gwblhau.

– Bydd artistiaid yn cael eu talu drwy drosglwyddiad banc pan fyddwn wedi derbyn taliad llawn gan y prynwr.
– Noder: Os yw gwaith yn cael ei brynu gan Picture Plan, gallai hyn fod hyd at 12 mis yn ddiweddarach.

CASGLU GWAITH
– Os na chaiff eich gwaith ei ddewis i’w arddangos, casglwch ef cyn 3 Gorffennaf 2026.
– Mae’r holl waith o’r arddangosfa sydd heb ei werthu i’w gasglu rhwng dydd Llun 14 a dydd Gwener 18 Medi 2026, rhwng 10am a 4pm.
– Mae’n ddrwg gennym na allwn drefnu dychwelyd gweithiau drwy’r post na cludwr parsel.
– Noder: Mae gan MOMA Machynlleth yr hawl i gael gwared ar waith heb ei gasglu ar ôl 18 Medi 2026.
– Os oes angen mwy o amser arnoch i gasglu gwaith, trefnwch hyn gyda ni.

CYFEIRIAD A MANYLION CYSWLLT
– Y cyfeiriad ar gyfer cyflwyniadau yw Cystadleuaeth Gelf y Tabernacl 2026, MOMA Machynlleth, Heol Penrallt, Machynlleth, Powys, SY20 8AJ
– Ffôn: 01654 703355.
– E-bost: info@moma.machynlleth.org.uk

Os ydych yn ansicr o unrhyw beth neu angen eglurhad, cysylltwch â ni.