Ymunwch â WELSH OF THE WEST END am noson o ffefrynnau theatr gerdd.

Mae Welsh of the West End wedi denu dros 20 miliwn o wyliwyr ar-lein, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u fersiynau syfrdanol o glasuron theatr gerdd. Ar ôl perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium, daethant i sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol drwy gyrraedd rownd gynderfynol byw Britain’s Got Talent ar ITV.

Maent wedi perfformio yn West End Live yn Sgwâr Trafalgar, wedi bod yn brif act yn Pride Cymru, wedi cefnogi Michael Ball ac Alfie Boe ar eu taith Haf, ac wedi partneru ag Undeb Rygbi Cymru fel yr adloniant ar y cae cyn y gemau rygbi rhyngwladol i gynulleidfa o 75,000 o bobl. Mae eu perfformiadau wedi cael eu darlledu ar S4C, BBC Radio Wales a Radio Cymru, ac yn 2025 roedd pob tocyn wedi ei werthu i’w cyngerdd mawreddog yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r grŵp yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Miserables, Phantom of the Opera a Wicked.