Disgrifiad

Yng nghelfyddyd Cymru, yn aml does dim modd gwahaniaethu rhwng y ddelwedd a’r gair. Gall cerddi baentio. Gall paentiadau siarad. Ac yn y llyfr hwn â’i holl ddarluniau coeth mae’r golygyddion wedi dod ynghyd â rhai o artistiaid, haneswyr a beirniaid celf gorau Cymru i ymchwilio i’r berthynas gyfareddol rhwng y gweledol a’r geiriol.