Disgrifiad

Ymunwch â ni fel un o Gyfeillion y Tabernacl a gallwch helpu i gefnogi ein gwaith am gyn lleied â £18 y flwyddyn.

Drwy ddod yn Gyfaill byddwch yn cyfrannu i gynnal MOMA a’r Tabernacl fel canolfan neilltuol i’r celfyddydau, p’un a ydych yn byw yn lleol neu’n ymweld o bellach i ffwrdd.

Fel Cyfaill, byddwch yn derbyn cylchlythyrau chwarterol am arddangosfeydd, sgyrsiau a chyngherddau sydd ar ddod ynghyd â gwahoddiadau arbennig i agoriadau arddangosfeydd. Byddwch hefyd yn cael gostyngiad ar docynnau tymor i’r Ŵyl, gwahoddiadau i gynulliadau cymdeithasol a gostyngiadau yn y siop ar-lein. Ac os ydych chi am gyfranogi’n fwy o’n gwaith, ceir cyfle i helpu gyda digwyddiadau codi arian ac mae llawer o’n Cyfeillion hefyd yn gwirfoddoli gyda ni.

Lleiafswm yw’r cyfraddau tanysgrifio i’r Cyfeillion isod ac mae croeso bob amser i roddion ychwanegol:

Aelodaeth sengl: £25 y flwyddyn
Cyd-aelodaeth/aelodaeth deuluol: £40 y flwyddyn
Aelodaeth y Tu Allan i’r Dref: £15 y flwyddyn
Cyfeillion Arbennig (pensiynwyr, myfyrwyr, digyflog a phobl iau): £10 y flwyddyn