Disgrifiad

Mae Natalie Chapman yn paentio portreadau sy’n ymdrin â hunaniaeth a dogfennu cymdeithasol.

Mae’r corff hwn o waith yn twrio i hanes Natalie Chapman a’i phresennol a’r holl bosibiliadau diddiwedd rhwng y ddau. Mae pob delwedd yn seiliedig ar ennyd benodol yn ei bywyd hyd yma gan gynrychioli’r fersiwn honno ohoni ei hun.

Yn ôl Natalie, “Dw i’n gobeithio y byddwch yn eich nabod eich hun mewn peth o’r gwaith, rydyn ni i gyd yn chwarae rolau cyfarwydd mewn bywyd ac mae pob un yn ein helpu i ffurfio ein hunaniaeth”.

 

Sylwch: Os caiff ei brynu, bydd y gwaith hwn yn cael ei bostio allan neu bydd ar gael i’w gasglu ar ôl i’r arddangosfa orffen.