Disgrifiad

Llwyddodd Gwendoline Davies a Margaret Davies i hel at ei gilydd un o gasgliadau celf mwyaf yr ugeinfed ganrif. Yn swil ac yn gyfoethog tu hwnt, tywalltodd y chwiorydd Davies o Landinam ei ffortiwn i elusennau ac maent yn enwog am greu i’w gwlad drysorfa gyfareddol o baentiadau, llawenydd sy’n para am byth.