Disgrifiad

Yn 2003, daeth Syr Emyr Jones Parry yn Gynrychiolydd Parhaol y DU i’r Cenhedloedd Unedig. Penderfynodd Syr Emyr y byddai’n arddangos gwaith gan artistiaid o Gymru yn ei breswylfa swyddogol yn Efrog Newydd a gofynnodd i ni ei helpu. Fe gasglon ni rai dewisiadau posibl at ei gilydd y bu Syr Emyr yn dethol ohonynt a chludwyd y rhain i’r Unol Daleithiau ar fwrdd y Queen Mary.

Un o’r paentiadau oedd Trysor Ystumtuen gan Mary Lloyd Jones ac ar ôl i’r llun ddychwelyd i Gymru’n ddiogel, fe’i prynwyd ar gyfer Casgliad y Tabernacl.

Ruth Lambert. Mawrth 2021


Darganfod mwy

Mae gan Mary Lloyd Jones 3 gwaith ar-lein

Porwch destunau tebyg: Haniaethol Tirlun

Mae gennym 155 Paentiadau ar-lein.