Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Ursula wedi bod unai yn cerdded neu’n ysgrifennu am gerdded. Nid yw’n honni ei bod yn anturiaethwr, ond yn hytrach yn gerddwr o fri. Ei ffordd o fyw yw gwersylla yn y gwyllt a bodoli yn yr awyr agored
Mae ei llyfr cyntaf, One Woman Walks Wales, yn sôn am y diagnosis o gancr ar yr ofari a sut yr aeth ati, wedi hyn, i gerdded 3,700 milltir dros Gymru ben baladr. Mae hi newydd orffen cerdded 5,500 milltir ar draws Ewrop, ac mae hi’n paratoi at gerdded LEJOG yn Ionawr 2022. Bydd hi wedyn yn ceisio aros yn llonydd i ysgrifennu ei llyfr nesaf.

Bydd Ursula yn trafod ei theithiau heriol ar draws Ewrop, a’i phrofiadau yn cerdded 5,500 milltir drwy dri gaeaf, pedair gwlad ar ddeg a phandemig. Bydd hefyd yn disgrifio sut yr aeth ati i ysgrifennu am y profiad a chreu llyfr cofiadwy o’i hanesion. Bydd y sgwrs hon yn digwydd ar ddydd Sul Tachwedd 28.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/