Rydw i wedi creu’r cerfluniau hyn i godi ymwybyddiaeth o sut mae cam-drin emosiynol yn gallu effeithio ar ein horganau mewnol.

Yn aml, mae’n anodd iawn ceisio disgrifio emosiynau. Fodd bynnag, mae dangos yr emosiynau hyn mewn ffurf gorfforol yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o’r trawma ac yn denu cynulleidfa fwy cynhwysol, yn hytrach na dim ond clywed neu ddarllen am drawma o’r fath.

Mae pedwar cerflun yn y casgliad hwn wedi’u creu o fetel ac wedi’u rhoi at ei gilydd gyda chlai Raku. Mae’n adlewyrchu’r cryfder a’r breuder y mae’r deunyddiau hyn yn eu cynnig.
Ar ôl deng mlynedd ar hugain o weithio gyda metel, dyma’r tro cyntaf i mi gynnwys clai yn fy ngwaith. Mae wedi bod yn daith heriol, yn llawn darganfyddiadau newydd, a bydd nawr yn dod yn rhan o’m proses gerflunio yn y dyfodol.

Mae’r pumed cerflun “Greddf” wedi’i greu’n gyfan gwbl o ddur i gyfleu’r cryfder sydd y tu mewn i’n cyrff. ‘Yr ail ymennydd’ neu’r ‘llais i wrando arno’ sy’n cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio ein perfedd. Ein greddf yw hyn.