Nid yw tocynnau ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn bellach ar werth ond
byddant ar gael i’w prynu wrth y drws.

Mae Simon Jenkins yn newyddiadurwr sydd wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd.  Cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i newyddiaduraeth yn 2004. Bu’n olygydd i’r Evening Standard a The Times ac ar hyn o bryd mae’n golofnydd i’r Guardian

Mae Jenkins wedi ysgrifennu sawl llyfr ar hanes, gwleidyddiaeth a phensaernīaeth, yn cynnwys y llyfr hynod boblogaidd England’s Thousand Best Churches and England’s Thousand Best Houses. Ei lyfr diweddaraf yw Europe’s 100 Best Cathedrals, sef cofnod o eglwysi cadeiriol y dylai pawb ymweld â hwy cyn marw!

Bydd Simon Jenkins yn trafod pwnc a oedd yn bwysig iawn i Jan Morris, sef campweithiau pensaernīol sy’n cael eu hanghofio yng Nghymru. Bydd hyn yn disgwydd yn Y Tabernacl ddydd Gwener Tachwedd 26.

Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, o’r 15fed o Dachwedd 2021 bydd angen i chi defnyddio’r pàs COVID y GIG i ddangos statws brechu llawn neu Brawf Llif Ochrol negyddol arnoch i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl .

Rhaid i chi wneud cais am Bàs COVID y GIG drwy wefan y GIG:

https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/