Mae’r arddangosfa ‘Nôl a ‘Mlaen – What a Relief!’ yn olrain gyrfa Ruth Jên fel gwneuthurwraig print, o’i dyddiau Coleg yn ystod yr 1980au hyd heddiw.
Bydd yr Arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth o brosesau printio – toriadau leino, torluniau pren, monoprints ,sgrinsidan a’i diddordeb diweddar mewn cyfuno print a serameg. Dyma gyfle i gael cipolwg ar fyd a gwaith Ruth Jên ar amrywiaeth o waith iddi gynyrchu dros y 40 mlynedd diwethaf.

Gwneuthurwraig brintiau sefydledig yw Ruth Jên sydd wedi arddangos yn helaeth yma yng Nghymru a thros y dwr. Yn gweithio o’i chartref yn Nhalybont ger Aberystwyth mae Ruth yn artist amlgyfrwng sy’n defnyddio amrywiaeth o brosesau argraffu gan gynnwys monoprint,sychbwynt,sgrinsidan a thorluniau leino. Astudiodd yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd lle graddiodd mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn argraffu ac yn 2015 derbyniodd Ôl-radd mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Er mae printio yw ei phrif weithgarwch mae hi wedi arbrofi efo collage,serameg a ffilm. Mae’n brintwraig chwilfrydig ac yn aelod gweithredol o Argraffwyr Aberystwyth ers ei sefydlu yn 2004.
Mae enghreifftiau o’i gwaith mewn casgliadau preifat yng Nghymru a thramor.