Roedd ymgyrch Heddwch Menywod 1923 yn ymdrech wirioneddol ryfeddol ledled Cymru a oedd yn cynnwys bron pob cartref, trwy ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chefnogaeth trefnwyr sirol a chymunedol ‘y Gynghrair’. Teithiodd dirprwyaeth, a arweiniwyd gan Gadeirydd WLNU Annie Hughes-Griffiths, o Gymru i America ym mis Mawrth 1924 ar gyfer ‘Taith Heddwch’ 2 fis o amgylch yr Unol Daleithiau, gan feithrin cefnogaeth drwy sefydliadau menywod Americanaidd yn cynnwys dros 60 miliwn o bobl.

Gwahoddir Artistiaid Cymreig Cyfoes i ddangos darn o’u gwaith i gynrychioli Heddwch.