Sefydlodd y brodyr Owen a Tom Morgan eu bwyty Bar 44 cyntaf yn 2002 ar ôl syrthio mewn cariad gyda bwyd, diod a diwylliant Sbaen wrth dyfu fyny. Ers hynny, mae’r grŵp bwytai Bar 44 wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn yn un o’r prif gwmnīau ym Mhrydain sy’n ymwneud â bwydydd Sbaen. Maent yn menwforio eu brand eu hunain o olewydd a sieri, ac mae Owen yn Addysgwr Sieri Cofrestredig ac yn enillydd ‘Imbibe Restaurant Personality of the Year’ yn 2018.

Yn ystod y digwyddiad hwn, byddant yn rhannu eu hanesion o’r teithiau i Sbaen, a’u hanesion yn dod o hyd i gynhwysion a bwydydd ar gyfer eu llyfr coginio cynta sef ‘Bar 44 Tapas y Copas’