Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref casgliad eiconig o gelfyddyd Gymreig. Yn y sgwrs hon bydd Morfudd Bevan, Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhoi cipolwg ar weithiau gan artistiaid benywaidd a gedwir yng nghasgliad celf cenedlaethol y Llyfrgell.

Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio mewn llawer o wahanol adrannau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – o weithio gydag Adran Arddangosfeydd y Llyfrgell am 3 blynedd, i ddod wedyn yn aelod o’r Uned Ddigideiddio yn 2007. Er 2014, dw i wedi gweithio gydag Adran Gelf y Llyfrgell gan ddod yn Guradur Celf yn 2019. Mae’n fraint gweithio gydag un o gasgliadau celfyddyd cenedlaethol Cymru.

Archebwch docyn i’r sgwrs hon trwy’r tudalen Saesneg (Cliciwch y ddolen yn y dde uchaf)