Robat Arwyn
Rhys Meirion

 

Y cyfansoddwr Robat Arwyn sy’n derbyn Gwobr Glyndŵr eleni am Gyfraniad Arbennig i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Robat Arwyn yw un o gyfansoddwyr mwyaf toreithiog a phoblogaidd Cymru heddiw. Yn arweinydd yr enwog Gôr Rhuthun, mae cyfraniad Robat Arwyn i gynhysgaeth gorawl cerddoriaeth Cymru yn sylweddol. Prin yw’r corau yng Nghymru erbyn hyn nad oes ag o leiaf un o ganeuon Robat Arwyn yn ei repertoire ac mae cryfder ei ddawn gerddorol yn amlwg yn ei gomisiynau lu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Radio Cymru a Mudiad y Ffermwyr Ifainc a Chôr Meibion Cymry Llundain i enwi ond ychydig.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys cyflwyniad i gerddoriaeth Robat Arwyn a pherfformiad ohoni gan y tenor Rhys Meirion.