Gan gymryd lliwiau adeiladau, patrymau gwaith carreg, a nodweddion pensaernïol y dref fel ysbrydoliaeth, mae Giles Ford wedi creu 20 o faneri celf (gyda negeseuon dyrchafol wedi’u harysgrifio), nifer o weithiau celf wedi’u saernïo â llaw (a wnaed gan David Tasker) a’r pâr cain cyntaf erioed o ‘The Machynlleth brogue’ (gan Ruth Emily Davey) i anrhydeddu, dathlu a chodi ysbryd pawb sy’n byw ym Machynlleth ac yn ymweld â hi.