Ym misoedd hyfryd yr haf, mae blodau hardd o’n cwmpas ymhobman. Ydyn nhw’n bwrw swyn arnon ni gyda’u holl hyfrydwch? Yn sicr maen nhw’n newid deinameg unrhyw stafell lle maen nhw’n cael eu gosod… os byddant yn cael eu hail-greu mewn paentiad neu arluniad, ydyn nhw’n dal i fwrw eu hud eu hunain?

Byddwn ni’n edrych ar sut y gallen ni baentio blodau fel y byddan nhw hefyd yn cyfleu’r llawenydd a’r pleser rydyn ni’n eu teimlo yn eu cylch.

Dewch â fas neu bot jam sy’n cynnwys blodau. Bydd rhai ar gael hefyd, felly peidiwch â phoeni os nad yw hyn yn bosibl.

Bydd y dosbarth yma’n dechrau gyda PowerPoint byr yn edrych ar waith deg o artistiaid sydd wedi gweithio gyda blodau.

Artist aeddfed yw Gerda Roper sydd wrth ei bodd yn paentio ac arlunio ac sy’n arddangos ar hyn o bryd yn Ystafell y Gwladwyr yma ym MOMA. Bu’n dysgu paentio mewn adrannau celf mewn prifysgolion drwy gydol ei bywyd ac mae’n Athro Emeritws mewn Celfyddyd Gain. Mae’n credu bod a wnelo paentio lawn cymaint â beth rydych chi’n ei weld â beth rydych chi’n ei deimlo a bod y ffordd y mae paentiad yn cael ei baentio hefyd yn cyfrannu at sut mae’n cael ei ddarllen. Wrth ddysgu mae’n hoffi ymchwilio i gynnwys, deunydd a methodoleg er mwyn cyfuno’r tair elfen hon yn greadigol.

Am ddim ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch docyn i’r gweithdy hwn trwy’r tudalen Saesneg (Cliciwch y ddolen yn y dde uchaf)