Gall hunanbortread ddatgelu cyfrolau. Ydyn ni’n ein hoffi ein hunain? Ydyn ni’n ein portreadu ein hunain fel y tybiwn yr ydyn ni neu fel y tybiwn fod pobl yn ein gweld? Byddwn yn tynnu lluniau o’n hunain ac efallai o’n gilydd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Efallai y byddwn yn ein synnu ein hunain gan ddod i nabod ein hunain yn well wrth wneud.

Dewch â het a drych sy’n sefyll ar wahân.

Artist aeddfed yw Gerda Roper sydd wrth ei bodd yn paentio ac arlunio ac sy’n arddangos ar hyn o bryd yn Ystafell y Gwladwyr yma ym MOMA. Bu’n dysgu paentio mewn adrannau celf mewn prifysgolion drwy gydol ei bywyd ac mae’n Athro Emeritws mewn Celfyddyd Gain. Mae’n credu bod a wnelo paentio lawn cymaint â beth rydych chi’n ei weld â beth rydych chi’n ei deimlo a bod y ffordd y mae paentiad yn cael ei baentio hefyd yn cyfrannu at sut mae’n cael ei ddarllen. Wrth ddysgu mae’n hoffi ymchwilio i gynnwys, deunydd a methodoleg er mwyn cyfuno’r tair elfen hon yn greadigol.

Bydd y dosbarth hwn yn dechrau gyda PowerPoint byr am bobl a phortreadau gan wahanol artistiaid.

Am ddim ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch docyn i’r gweithdy hwn trwy’r tudalen Saesneg (Cliciwch y ddolen yn y dde uchaf)