Mae darlunio yn rhan annatod o arfer artistig Gerald Dewsbury… Mae’n cael effaith o harmoneiddio’r ymennydd pan all rhywun adael i deimladau a meddyliau lifo heb orfod poeni am berthnasoedd lliw ac ati. Yn bur aml bydd yn darlunio dim ond i ddod i adnabod ei destun; i ddysgu ac i werthfawrogi cyfansoddiad rhai tirweddau neu un o’r lliaws o fanylion a geir ynddynt. Mae darlunio rhywbeth yn ffordd wych o ddysgu… Neu gallant wneud syniad annelwig o’r meddwl yn weladwy.

Mae’r set hon o ddarluniau yn archwilio rhai o’r themâu y mae Gerald wedi bod yn edrych arnynt dros nifer o flynyddoedd.