Mewn pryd ar gyfer Nadolig rydym yn cyflwyno detholiad o eitemau fforddiadwy a fyddai’n gwneud anrhegion delfrydol. Ymhlith yr artistiaid yn y detholiad mae anifeiliaid cerameg gan Neil Dalrymple, troadau pren gan David Ware, printiau a lampau gan Elin Crowley, anifeiliaid gwydr gan Glassblobbery, printiau, mygiau, a chalendrau gan Ruth Jen Evans, printiau gan Ian Phillips, eitemau llechi ac addurniadau Nadolig gan Meic Watts, a cherfluniau gwydr gan Bill Swann.

Yn ogystal â’n hamseroedd agor arferol bydd y ‘Siop Nadolig’ hon ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 2pm.