Wedi’i eni yng Nghymru o rieni Cymreig a Gwyddelig, am hanner can mlynedd bron, mae Dennis O’Neill wedi bod yn un o denoriaid gwledydd Prydain sy’n ennyn yr edmygedd mwyaf, gyda gyrfa sydd wedi cwmpasu’r Tŷ Opera Brenhinol ac Opera Genedlaethol Cymru yn ogystal â München, Fienna, Berlin ac Efrog Newydd. Os mai Verdi sydd wedi bod ar ganol ei yrfa ganu, gyda rhan y tenor yn ei Offeren dros y Meirw yn ffefryn arbennig, mae hefyd wedi canu mewn cynyrchiadau o waith Puccini a Strauss. Bydd Dennis O’Neill yn siarad â Christopher Cook am ei yrfa fel canwr Verdi a’i rôl bresennol fel athro i genhedlaeth newydd o gantorion.