Cysylltwch â ni i fynd ar rhestr dychweliadau.

Cyngerdd arbennig gyda dau gôr o Fro Ddyfi. Bydd Côr Dyffryn Dyfi yn dod a’u rhaglen ysgafn sy’n llawn o ganeuon sy’n plesio cynulleidfa tra bydd Côr Meibion Machynlleth, sydd wedi hen ennill ei blwyf fel côr o safon cenedlaethol, yn dod a’i stamp unigryw i’r cyngerdd. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gronfa Bro Ddyfi sy’n rhan o Apêl i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.