Mae celf, uchelgais a thwyll yn gwrthdaro yn *The Christophers* – comedi-ddrama sydd wedi’i harsylwi’n graff, wedi’i chyfarwyddo gan Steven Soderbergh ac yn serennu Ian McKellen a Michaela Coel.

Mae Julian Sklar, a oedd unwaith yn ffigwr enwog ym myd celf Llundain, wedi ymddeol i fywyd o unigedd, wedi’i amgylchynu gan baentiadau anorffenedig. Pan mae ei blant – sydd wedi ymddieithrio oddi wrtho – yn recriwtio Lori, arlunydd ifanc dalentog sydd â hanes o ffugio celf, i gymryd rôl ei gynorthwyydd, maent yn gobeithio y gall hi orffen cyfres o gynfasau a adawyd heb eu cwblhau, a allai fod werth ffortiwn. Ond wrth i Lori gael mynediad i fyd Julian, mae’r cynllun yn dod yn fwyfwy cymhleth, gan godi cwestiynau am uniondeb artistig, teyrngarwch teuluol a gwaddol personol.

Gyda pherfformiadau gafaelgar, deialog finiog a digon o droeon annisgwyl, mae *The Christophers* yn archwiliad ffraeth sy’n ysgogi meddwl o’r hyn sy’n gwneud celf yn werthfawr — a phwy sy’n cael penderfynu ar ei gwerth.

Tystysgrif: 15
Hyd: 1 awr 40 munud

Sylwer: Er mwyn gwneud ein sinema yn fwy hygyrch, gellir dangos y ffilm hon gydag is-deitlau os gwneir cais ymlaen llaw, cyn diwrnod y dangosiad.