Mae fy ngwaith yn seiliedig ar straeon a lluniau o’r Mabinogi.

Un o drysorau llenyddiaeth Cymru yw’r Mabinogi. Roedd y straeon wedi ennyn fy niddordeb tra oeddwn yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ac yn ymweld â’r lleoliadau ble gosodwyd y straeon. Maent yn cynnwys rhyfelwyr, brenhinoedd, breninesau, consuriwyr, meichiaid, cewri a merched yn newid eu ffurf; mae eu bywydau’n cydblethu ag ymddangosiadau gan yr anifeiliaid hudolus canlynol: ceffylau, teirw, moch, helgwn a hyddod, yn ogystal â thylluanod, cigfrain a hebogiaid.
Mae gan anifeiliaid ran bwysig yn y stori, sy’n aml yn arwain at y cymeriadau dynol yn mynd ar deithiau ac anturiaethau allfydol. Mae’r anifeiliaid yn aml yn sbarduno newid sydyn a thrawsnewid annisgwyl.

Nid cynrychioli’r straeon yn llythrennol y mae’r rhan fwyaf o’m lluniau, ond ceisio cyfleu eu hawyrgylch a’u naws ddirgel. Y byd cydgysylltiedig yma o anifeiliaid, pobl a thirluniau dwyfol sydd wedi fy ysbrydoli i seilio fy ngwaith ar y Mabinogi.