Ystyr cyfarfyddiad yw taro ar draws neu gwrdd â rhywbeth yn annisgwyl ac felly cyfarfyddiadau sydd wrth wraidd edrych ar waith gan Gerda Roper. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys cyfres o luniau a phaentiadau am chwaraeon plant; maent yn darlunio dawnsio, siarad, gwisgo am hwyl a chuddio.

Wrth sôn am y gyfres o’r enw “Chwarae Mig”, fe ddywed Roper, “Dw i’n cael ryw wefr o hyd o chwarae mig. Mi fyddwn i’n ei chwarae yn blentyn mewn tai mawr yn y tywyllwch, mi fyddwn i’n ei chwarae gyda fy mhlentyn fy hun a dw i’n gweld ei fod yn dal i gael ei chwarae gyda’r un afiaith ofnus. Yn rhai o’r paentiadau dw i’n ceisio dal yr ennyd honno pan fo raid i chi ddal eich anadl oherwydd bydd anadlu’n datgelu’ch cuddfan”. Mae hefyd yn cofio’r ‘sleifio’n ôl i’r man cychwyn, y synau aneglur a sut byddai’r olwg ddiarth ar wrthrychau yn y llwydolau a’r tywyllwch yn ei gwneud hi’n beryglus i symud o le i le’.

Mae’r gweithiau hyn wedi’u saernïo’n ofalus. Maent yn farddol, yn gywrain, yn addurnol, ac yn ddomestig o ran maint, testun a chynnwys gan ddefnyddio smaldod a hiwmor i’n tywys yn gynnil i fydoedd a phrofiadau eraill. Maent yn dwyn at ei gilydd wirioneddau mewnol ac allanol, breuddwydion a ffantasïau, yr hyn a arsylwir arno a’r hyn a ddychmygir.

Wedi’i dynnu a’i gyfieithu o

Absorbing Encounters

gan yr Athro Jill Journeaux, 2020.


Gweithiau a arddangosir

Dancing at Dusk

Gerda Roper

£3000

In the Middle of the Night

Gerda Roper

£290

The Circus Dancers

Gerda Roper

£260

Tiger Lily

Gerda Roper

£1500

Hide & Seek Catalogue

Gerda Roper

£2