Aeth ffordd Selaocoe o ailddyfeisio’r soddgrwth yn syth i’r galon”, meddai un beirniad ac yn ddiweddar mae’r soddgrythor ifanc o Dde Affrica wedi bod yn cyffroi cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd. Gan symud yn ddiymdrech ar draws pob math o arddulliau a genres cerddorol, mae yr un mor gyfforddus fel unawdydd ag y mae’n cydweithio â cherddorion o bedwar ban byd. Cymysgedd meddwol yw ei berfformiadau o fyrfyfyrio, canu a defnyddio’r corff fel offeryn taro sy’n pontio traddodiadau cerddoriaeth y Gorllewin ac eraill. Yn ymrwymedig iawn i agor cerddoriaeth glasurol i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, sefydlodd Selaocoe driawd Chesaba sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Affrica. Bydd Abel Selaocoe yn siarad â Christopher Cook am ei ffordd yntau o gerddora.