Mae gwirfoddolwyr MOMA a’r Tabernacl yn ganolog i’n gwaith. Y gwir amdani, hebddynt, allen ni ddim cynnal ein harddangosfeydd a chyngherddau.

Mae ein gwirfoddolwyr teyrngar yn chwarae rôl weithredol yn ein gweithgareddau fel Cynorthwywr Oriel neu Stiward Cyngerdd. Mae hyn yn cynnwys cyfarch ymwelwyr, bod yn bresennol yn yr orielau a rhedeg siop yr orielau. Mae hefyd yn cynnwys gwerthu tocynnau a helpu gwesteion i gael hyd i’w seddau mewn digwyddiadau.

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn ein cefnogi ar ein pwyllgor Cyfeillion gan helpu gyda phopeth o ddigwyddiadau codi arian i bostiadau o’r swyddfa. Ar hyn o bryd, mae gynnon ni tua 40 o wirfoddolwyr ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth.

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i’n helpu. Os oes gynnoch chi ddiddordeb yn ein cefnogi drwy wirfoddoli, wrth gwrdd â phobl newydd a chael profiad cyfoethocach o’n harddangosfeydd a digwyddiadau, byddwn ni wrth ein boddau clywed gynnoch chi.

I gofrestru’ch diddordeb a thrafod gwirfoddoli yn fanylach, ffoniwch ein Gweinyddwr Ray Jones ar 01654 703355.

Dewch yn Gyfaill

Ymunwch â’n Cyfeillion heddiw am newyddion, cynigion a digwyddiadau arbennig.

Cael gwybod sut

Y Tabernacl

Mwynhewch gyngherddau, sgyrsiau, dramâu a digwyddiadau llenyddiaeth yn yr unig ganolfan ym Machynlleth sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i gyngherddau.

Pori digwyddiadau

Orielau Celf

Ymdrwythwch mewn gweithiau celf gan artistiaid modern a chyfoes sydd ar ddangos ar draws ein saith oriel gelf.

Pori drwy'r arddangosfeydd

Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Rhoi